Cwestiynau Cyffredin
Sut byddaf yn derbyn yr arian nol ar y treth?
Bydd ein cyfrifydd yn cysylltu a CThEM mynd ar ôl ffurflenni adhawlio y 50% ac yn danfon allan i bawb ar ôl 4 mis i fynd heibio ar ol prynu’r cae newydd.
Pa mor hir fydd yn rhaid i mi ymrwymo fy arian?
Bydd cytundeb cytundebol yn cael ei lofnodi a bydd hyn hefyd yn caniatáu 36 mis i bwyllgor y prosiect ail gyllido a’ch talu’n ôl. Byddwn yn edrych i gael grantiau gan Asiantaeth Pêl-droed Cymru i ddatblygu y safle fel cae pêl-droed modern. Byddwn hefyd yn gwneud cais am grantiau i ddatblygu’r adeilad a gwasanaethau cymunedol.
Pa sicrwydd ychwanegol fydd gennyf ar gyfer rhoi benthyciad mwy o faint?
Bydd benthycwyr mawr o £10,000 neu fwy yn cael opsiwn o arwystl cyfreithiol ar yr cae. Byddech yn cael eich buddsoddiad yn ôl fel benthyciwr gwarantedig.
Sut byddwch chi’n gallu rhoi difidend posib hefyd yn ychwanegol i’r 50% nol a’r treth.
Byddwn yn rhentu allan y cae newydd i fudiadau eraill, hefyd bydd perfformiad y dafarn gymunedol yn sicrhau cronfa wrth gefn i dalu’r difidend a hefyd cael arian i dalu rhai o’r buddsoddwyr nol yn gynt.
Sut mae’r Cynllun Buddsoddi 50% mewn Menter yn gweithio?
Ceir manylion llawn ar wefan CThEM drwy chwilio SEIS. Unwaith y byddwn yn dechrau defnyddio’r cae newydd yna byddwn yn gwneud cais am statws SEIS ar fuddsoddiad ac yna byddwn yn rhoi ffurflen SEIS3 i bob benthyciwr i hawlio 50% o’ch buddsoddiad yn ôl. Mae’n rhaid i chi fod yn drethdalwr yn y DU. Mae’n bosibl gofyn i’ch cyfrifydd neu gwmni cyfrifeg lleol am y cynllun hwn.
Beth os bydd angen fy arian benthyciad arnaf cyn y cyfnod talu nol ar ol 36 mis?
Gallwch roi rhybudd o 3 mis os bydd angen i chi gael yr arian yn ôl yn gynt na 3 blynedd ac yna bydd y difidend yn cael ei gyfrifo hyd at y diwrnod y dychwelir yr arian. OND bydd efyd rhaid roi gwybod i CThEM ac fe fydd posibilrwydd bod rhaid i chi dalu nol y 50% arbediad treth.
I ble y dylwn i anfon y cyllid benthyciad, fel y gallwn sicrhau bod y gymuned yn prynu’r cae hwn er mwyn sicrhau fod bobol i’r dyfodol yn medru ei fwynhau a’i gael fel ased cymunedol pwysig
Gallwch wneud trosglwyddiad banc i:
Enw’r Cyfrif CPD Crymych : Cod Didoli 30-90-60 : Rhif y Cyfrif 51189268
Nid oes £1,000 gyda fi i fenthyg, sut alla i gyfrannu i helpu gyda chostau’r ymgyrch?
Mae yna wefan GoFundMe a fydd yn helpu i gefnogi gyda costau cychwynnol yr ymgyrch gymunedol – ewch i www.gofundme.com a chwiliwch CPD Crymych.