Mynd i'r cynnwys

Swyddi

Rheolwr Prosiect Grantiau : Clwb Pêl Droed Crymych Prosiect Tafarn Crymych Arms

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad a chefndir proffesiynol yn y maes rheoli grantiau i gefnogi ein datblygiad cyffrous gyda’r clwb pêl droed yng Nghrymych. I arwain cyfnod datblygu a pharatoi adroddiadau nol i’r cyllidwyr ar gyfer prosiect sylweddol o ddatblygu adeilad Tafarn Crymych Arms a Chlwb Pêl Droed Crymych yn hwb gymunedol lewyrchus, a datblygu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau i ddehongli a chysylltu pobol a chwaraeon, lles iechyd a threftadaeth leol.

Cyflog:  £33,000 y flwyddyn – Pro Rata (£19,800 am 3 diwrnod yr wythnos)

Oriau: 22½ awr yr wythnos*

Oriau hyblyg. Bydd angen gweithio oriau gyda’r nos yn achlysurol.

Hyd Cytundeb: 10 Mis Cychwynnol – gyda’r potensial i ymestyn yn amodol ar geisiadau cyllid llwyddiannus ychwanegol.

*Rydym hefyd yn agored i dderbyn cynigion gan unigolion gyda phrofiad sylweddol yn y maes hwn ar sail cytundeb llawrydd

Dyddiad cau 16/09/2023

Mae’r gallu i weithio a chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.

Rheolwr Tafarn Crymych Arms (neu'r tîm tafarn) Clwb Pêl Droed Crymych

Rydym yn chwilio am unigolyn (neu dîm tafarn) sydd â hanes rheoli tafarn llwyddiannus a chefndir profiadol yn y maes rheoli stoc a staff tafarn. Prif ddyletswyddau fydd rheoli, gweinyddu a chydlynu rhedeg Tafarn Crymych Arms fel tafarn a busnes o ddydd i ddydd, gan weithio gyda’r Pwyllgor, rheoli, staff, gwirfoddolwyr, yr aelodau a’r gymuned leol

Cyflog: £32,000 y flwyddyn (gyda fflat 3 ystafell wely ar gael fel llety i reolwyr)*

Oriau hyblyg. Bydd angen gweithio oriau gyda’r nos a phenwythnos.

Hyd Cytundeb: Parhaol ond gydag adolygiadau perfformiad.

Lleoliad: Tafarn Crymych Arms, Crymych, Sir Benfro. SA41 3RJ

*Rydym hefyd yn agored i dderbyn cynigion gan unigolion gyda phrofiad sylweddol yn y maes hwn ar sail cytundeb llawrydd

*Hefyd byddem yn croesawu trafodaethau gyda thîm o bobl neu gwpl a fyddai’n dymuno cymryd y cyfrifoldeb o redeg y dafarn.

Dyddiad cau 16/09/2023

Mae’r gallu i weithio a chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.

cy